HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni

Perfformiad Blaengar

Leading-edge performanceMae darparu cyflenwad trydan yn effeithio ar fywydau pawb o fewn ein rhanbarth ac rydym yn ymroddedig i sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn fodlon iawn gyda'r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn gennym ni.

Yn yr adran hon cewch weld sut yr ydym yn ceisio dileu cwynion i'r Rheoleiddiwr, OFGEM (Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan), drwy lwyddo yn ein gwasanaeth i gwsmeriaid y tro cyntaf, bob tro.

Mae ein gwasanaeth rhagorol yn y maes hwn wedi cael ei gydnabod drwy gynllun Nod Siarter y Llywodraeth ar gyfer De Cymru a De Orllewin Lloegr.  Ni oedd y  cyntaf i ennill y Nod Siarter yn 1992 ac rydym wedi cynnal y safon hon yn ddi-dor am yr 19 mlynedd ddiwethaf.  Rydym yn falch o fod yr unig gwmni ynni i gyflawni hyn.

Yn Ne Cymru a De Orllewin Lloegr cawsom ein asesu yn ddiweddar yn erbyn Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer newydd y llywodraeth gymrodd le'r Nod Siarter o Ebrill 2010.  Mae'n safon anoddach i'w gyrraedd gyda dros 100 elfen o ddarparu gwasanaeth yn cael ei archwilio'n fanwl.  Derbyniom y safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer o Ebrill 2010 ar gyfer De Cymru a De Orllewin Lloegr.

Cliciwch yma i weld ein targedau perfformiad allweddol ar gyfer De Cymru a De Orllewin Lloegr.