Tro Cyntaf, Bob Tro
Yn Hydref 2008 penodwyd Ombwdsmon Ynni newydd i ddelio â chwynion gan gwsmeriaid domestig a busnesau bach. Mae gan gwmnïau ynni wyth wythnos i ddelio â chwynion. Ar ôl y cyfnod hwnnw mae cwsmeriaid yn gallu cyfeirio eu cwyn i sylw’r Ombwdsmon Ynni.
Ein nod yw lleihau cwynion i’r Ombwdsmon drwy ei gael ein gwasanaeth i gwsmeriaid yn iawn y tro cyntaf, bob tro wrth ddelio â chwynion. O dan y drefn flaenorol Golwg ar Ynni, llwyddodd WPD De Cymru a De Orllewin Lloegr i leihau’r cwynion a gyfeiriwyd i Golwg ar Ynni i sero, y safle uchaf yn y diwydiant. Rydym wedi cynnal y safle hwn hyd yma, gyda dim cwynion wedi eu cyfeirio i sylw’r Ombwdsmon Ynni newydd.
-(Large).aspx)
Safonau Gwarantedig a Chyffredinol
Yn ychwanegol at adborth gan gwsmeriaid, mae gan OFGEM (Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan) set o safonau gwasanaeth y mae’n disgwyl i ni eu cyrraedd. Ar hyn o bryd rydym yn cyrraedd neu’n rhagori ar ei holl dargedau ar gyfer Safonau Cyffredinol ac rydym wedi cynyddu’n sylweddol lefelau gwasanaeth ers 1994/95. Hefyd, mae gennym bellach gyfraddau llwyddiant arbennig o uchel ar Safonau Gwarantedig.
Am fanylion y safonau hyn a’n perfformiad diweddar yn Ne Cymru a De Orllwin Lloegr. cliciwch yma.