Rydym yn mesur ein perfformiad mewn tair ffordd:
Sicrwydd Cyflenwad yw’r nifer o funudau ar gyfartaledd y mae cwsmer heb gyflenwad trydan mewn blwyddyn neu “Doriadau Cwsmeriaid” (TC).
Argaeledd y Cyflenwad yw nifer y toriadau ar gyfartaledd i gyflenwad trydan cwsmer neu “Funudau Cwsmeriaid a Gollwyd” (MCG).
Adfer y Cyflenwad yw’r % o gwsmeriaid a gafodd eu trydan yn ôl mewn awr os bu toriad trydan oherwydd nam.
Mae’r rheolydd ynni, Ofgem, wedi gosod targedau IIS (Cynllun Gwybodaeth a Chymhelliad) called newydd yr ydym wedi rhagori arnynt yn 2010/11.
Sicrwydd y Cyflenwad 2010/11
|
WPD De Orllewin Lloegr (TC)
|
|
Targed Ofgem
|
73.6 TC
|
|
Perfformiad Cynllun Gwybodaeth a Chymhelliad (IIS)
|
61.5 TC
|
|
PERFFORMIAD WPD
|
16.5% yn uwch na’r targed
|
|
WPD De Cymru (TC)
|
|
Targed Ofgem
|
79.5 TC
|
|
Perfformiad IIS
|
58.4 TC
|
|
PERFFORMIAD WPD
|
26.5% yn uwch na’r targed
|
|
WPD Dwyrain Canolbarth Lloegr* (TC)
|
|
Targed Ofgem
|
75.7 TC
|
|
Perfformiad Cynllun Gwybodaeth a Chymhelliad (IIS)
|
61.73 TC
|
|
PERFFORMIAD WPD
|
18.4% yn uwch na’r targed
|
|
WPD Gorllewin Canolbarth Lloegr* (TC)
|
|
Targed Ofgem
|
109.9 TC
|
|
Perfformiad IIS
|
102.16 TC
|
|
PERFFORMIAD WPD
|
7% yn uwch na’r targed
|
Argaeledd y Cyflenwad 2010/11
WPD DE Orllewin Lloegr (MCG)
|
|
Targed Ofgem
|
51.0 MCG
|
|
Perfformiad IIS
|
42.6 MCG
|
|
PERFFORMIAD WPD
|
16.5% yn uwch na’r targed
|
|
WPD DE Cymru (MCG)
|
|
Targed Ofgem
|
44.6 MCG
|
|
Perfformiad IIS
|
32.4 MCG
|
|
PERFFORMIAD WPD
|
27.4% yn uwch na’r targed
|
|
WPD Dwyrain Canolbarth Lloegr* (TC)
|
|
Targed Ofgem
|
69 MCG
|
|
Perfformiad Cynllun Gwybodaeth a Chymhelliad (IIS)
|
54.92 MCG
|
|
PERFFORMIAD WPD
|
20.4% yn uwch na’r targed
|
|
WPD Gorllewin Canolbarth Lloegr* (TC)
|
|
Targed Ofgem
|
97 MCG
|
|
Perfformiad IIS
|
89.52 MCG
|
|
PERFFORMIAD WPD
|
7.7% yn uwch na’r targed
|
*Arfer bod yn Central Networks
Mae’r ffigyrau hyn yn cynnwys pob toriad oedd yn para am dri munud neu fwy ar rwydwaith WPD yn cynnwys y rhai a achoswyd gan dywydd garw, nam a 50% o’r rhai a ddigwyddodd oherwydd toriadau a drefnwyd ymlaen llaw. Nid ydym wedi cynnwys effaith digwyddiadau eithriadol, yn cynnwys tywydd garw iawn.
Adfer y Cyflenwad - Targed 60
Yn ogystal â’r adroddiad am berfformiad a gyflwynwyd i Ofgem, mae gan WPD ei gynllun ei hun, sef Targed 60. Nod Targed 60 yw sicrhau bod cymaint o gwsmeriaid â phosibl yn cael eu trydan yn ôl o fewn awr i nam yn digwydd.
Yn 2010/11 ein perfformiad oedd:
WPD De Orllewin Lloegr = 86.0%.
WPD De Cymru = 88.3%.
WPD Dwyrain Canolbarth Lloegr* = 64.9%.
WPD Gorllewin Canolbarth Lloegr = 60.8%.
*Arfer bod yn Central Networks
Dechreuodd WPD Dwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr weithio tuag at hyn ym mis Ebrill 2011 a bydd yn anelu at wella’r perfformiad hwn wrth fynd ymlaen.
Perfformiad y Ganolfan Gyswllt
Yn 2010/11 roedd WPD De Cymru a WPD De Orllewin Lloegr yn 1af ac 2il am fodlonrwydd cwsmeriaid o blith y 14 cwmni rhwydwaith trydan. Roedd WPD Dwyrain Canolbarth Lloegr a WPD Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 6ed ac 8fed yn ôl eu trefn. Rhoddwyd sgôr i staff y ganolfan am gwrteisi, parodrwydd i helpu, cywirdeb a defnyddioldeb yr wybodaeth a roddwyd, a pha mor gyflym oedd yr ymateb i’r alwad.
Mae Ofgem yn gosod targed i ateb 80% o alwadau o fewn 20 eiliad. Mae WPD De Orllewin Lloegr a WPD De Cymru yn rhagori ar y targed hwn ac yn darparu’r ateb cyflymaf o unrhyw Weithredwr Rhwydwaith Dosbarthu yn y DU.
|
WPD De Orllewin Lloegr a De Cymru
Gwasanaeth i Gwsmeriaid 2010/11
|
|
Gwasanaeth
|
Targed
|
Perfformiad WPD
|
|
Ymholiadau Cyffredinol
|
Ateb 80% o alwadau mewn 20 eiliad
4% neu lai o alwadau heb eu hateb
|
Atebwyd 99.7% mewn 20 eiliad
Y ganran heb ei hateb 0.01%
|
|
Dim Cyflenwad
|
Ateb 80% o alwadau mewn 20 eiliad
4% neu lai o alwadau heb eu hateb
|
Atebwyd 99.2% mewn 20 eiliad
Y ganran heb ei hateb 0.11%
Cyflymder ateb ar gyfartaledd 1.53 eiliad
|
Gosodwyd targed i WPD Dwyrain Canolbarth Lloegr a WPD Gorllewin Canolbarth Lloegr i ateb 90% o’u galwadau mewn 15 eiliad.
|
WPD Dwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr*
Gwasanaeth i Gwsmeriaid 2010/11
|
|
Targed
|
Perfformiad WPD
|
|
Ateb 90% o alwadau mewn 15 eiliad
|
Atebwyd 65% mewn 15 eiliad
|
|
Ateb 90% o alwadau mewn 15 eiliad
|
Atebwyd 76% mewn 15 eiliad
Cyflymder ateb ar gyfartaledd 19 eiliad
|
*Arfer bod yn Central Networks
Safonau Perfformiad Gwarantedig
Mae safonau gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu gosod gan y rheolydd ynni, Ofgem
Nam i Ffiws y Cwmni
Os bydd cwsmer yn colli cyflenwad oherwydd nam i’r prif ffiws, byddwn yn ymweld o fewn 3 awr yn ystod yr wythnos a 4 awr ar benwythnos. Os na lwyddwn i wneud hyn, byddwn yn talu £20 i’r cwsmer.
Cafodd WPD De Orllewin Lloegr a WPD De Cymru lwyddiant 100% a chafodd WPD Canolbarth Lloegr* lwyddiant o 99.72%
Y Cyflenwad Trydan yn Methu
Os bydd ein rhwydwaith dosbarthu’n methu byddwn yn adfer cyflenwadau o fewn 18 awr o gofnodi’r nam yn ystod tywydd arferol. Os na lwyddwn i wneud hyn, byddwn yn talu £54 i’r cwsmer (£108 i gwsmeriaid busnes). Byddwn yn talu £27 arall am bob 12 awr ychwanegol y bydd y cwsmer heb drydan.
Cafodd WPD De Orllewin Lloegr a WPD De Cymru lwyddiant 100% a chafodd WPD Canolbarth Lloegr* lwyddiant o 99.72%
Os bydd ein rhwydwaith dosbarthu’n methu yn ystod tywydd garw byddwn yn adfer cyflenwadau o fewn 24 neu 48 awr o gofnodi’r nam. Os na lwyddwn i wneud hyn, byddwn yn talu £27 i’r cwsmer. Byddwn yn talu £27 arall am bob 12 awr ychwanegol y bydd y cwsmer heb drydan at uchafswm o £216.
Cafodd WPD De Orllewin Lloegr a WPD De Cymru lwyddiant 100% a chafodd WPD Canolbarth Lloegr* lwyddiant o 99.93%
Rhybudd o Doriad i’r Cyflenwad a Drefnwyd ymlaen llaw
Os bydd angen i ni dorri cyflenwad er mwyn gwneud gwaith profi neu gynnal a chadw, byddwn yn rhoi 2 diwrnod o rybudd o leiaf i gwsmeriaid. Os na lwyddwn i wneud hyn, gall cwsmeriaid hawlio £22 (£44 i gwsmeriaid busnes).
Cafodd WPD De Orllewin Lloegr a WPD De Cymru lwyddiant 99.99% a chafodd WPD Canolbarth Lloegr* lwyddiant o 99.98%
Ymholiadau ynglŷn â Foltedd
Os bydd cwsmer yn cysylltu â ni i ddweud bod problem gyda foltedd eu trydan, rydym yn addo ymateb i’r ymholiad o fewn 5 diwrnod gwaith neu drefnu i ymweld ac ymchwilio i’r broblem o fewn 7 diwrnod gwaith. Os na lwyddwn i wneud hyn, byddwn yn talu £22.
Cafodd WPD De Orllewin Lloegr a WPD De Cymru lwyddiant 100% a chafodd WPD Canolbarth Lloegr* lwyddiant o 100%.
*Arfer bod yn Central Networks
Cwynion
Mae WPD yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Safonau Delio â Chwynion ac mae gwasanaeth Ombwdsmon Ynni annibynnol yn delio â chwynion heb eu datrys am gwmnïau ynni.
Mae gan Western Power Distribution Reol Aur - ‘trin cwsmeriaid fel yr hoffech chi gael eich trin eich hun’.
Ein nod yw datrys pob cwyn gan gwsmeriaid cyn gynted â phosibl fel nad oes angen i’r cwsmer fynd â’r mater at yr Ombwdsmon Ynni.
Yn ystod 2010/11 derbyniodd WPD De Orllewin Lloegr a De Cymru 2274 o gwynion.
Cafodd 100% o’r cwynion eu datrys gan sicrhau bodlonrwydd cwsmeriaid - Ni chyfeiriwyd unrhyw gŵyn at yr Ombwdsmon Ynni.
Yn ystod 2010/11 derbyniodd WPD Canolbarth Lloegr* 4190 o gwynion, cyfeiriwyd 11 ohonynt at yr Ombwdsmon Ynni a dim ond 2 ddyfarnwyd yn ein herbyn.
*Arfer bod yn Central Networks