HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni
Perfformiad Blaengar
Ein Amcanion Allweddol



Ein Amcanion Allweddol

Key goalsMae perfformiad ein busnes wedi gosod WPD De Cymru a De Orllewin Lloegr ar y blaen o ran dosbarthu trydan yn y DU. Mae ein llwyddiant wedi ei seilio ar ragoriaeth mewn pump prif faes – diogelwch, dibynadwyedd, gwasanaeth cwsmeriaid, effeithlonrwydd busnes a’r amgylchedd.
  • Mae diogelwch y cyhoedd a’n staff yn hollbwysig. Nid ydym yn cyfaddawdu ar ddiogelwch ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn ein record diogelwch.
  • Rydym yn gwella dibynadwyedd ein rhwydwaith dosbarthu yn gyson fel y gallwn aros ar y blaen i'r targedausy'n cael eu gosod gan y rheoleiddiwr a sicrhau nod toriadau i'r cyflenwad sydd ddim wedi eu trefnu ymlaen llaw yn amharu cyn lleied a phosibl ar gwsmeriaid.
  • Rydym wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn gyson ac rydym yn falch o'r enw da sydd gennym o fod yn arweinydd ymhlith cwmnïau dosbarthu trydan o ran gwasanaeth cwsmeriaid yn Ne Cymru a De Orllewin Lloegr. Rydym yn arwain y diwydiant ym mherfformiad ein canolfan gyswllt a thrwy dderbyn y lefel isaf o gwynion yn yr ardaloedd hynny.
  • Mae ein buddsoddiad mewn technoleg newydd wedi bod yn gonglfaen i'n llwyddiant mewn gwella dibynadwyedd ac effeithlonrwydd busnes ym mhob rhan o'r cwmni.
  • Rydym yn cael ein cydnabod am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid hynod effeithlon a chost-effeithiol.
  • Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif ac rydym yn datblygu atebion technegol arloesol i leihau colledion yn y system a chwtogi ar ein ôl troed carbon.
Mae perfformiad ein pobl wrth galon ein llwyddiant ac rydym yn cyflogi staff sydd wedi eu hyfforddi’n dda, sy’n llawn cymhelliad a sy’n cymryd cyfrifoldeb personol am ganlyniadau. Mae cyfathrebu cyson gyda staff yn hanfodol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’n prif amcanion ar gyfer llwyddiant a’u bod yn deall bod yr hyn y maen nhw’n eiwneud o ddydd i ddydd yn cael dylanwad uniongyrchol ar lwyddiant ein busnes.