HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni

Am ein Rhwydwaith

Am ein Rhwydwaith

Mae trydan yn cael ei gludo ar draws y wlad trwy’r Grid Cenedlaethol ar 275,000 neu 400,000 folt. Mae’n cael ei leihau i 132,000 folt ar gyfer dosbarthu’n rhanbarthol mewn is-orsafoedd a elwir yn Bwyntiau Cyflenwi Grid. Oddi yno mae’n cael ei ddosbarthu i is-orsafoedd pellach drwy linellau trydan uwchben neu geblau tanddaear ar 132,000 folt. Mae’r foltedd yn cael ei leihau eto i 33,000 folt a maes o law i 11,000 folt.

Mae’r rhwydwaith ddosbarthu wedyn yn cludo trydan i drefi a phentrefi unigol ar hyd a lled De Cymru a Chanolbarth a De Orllewin Lloegr, ble mae is-orsafoedd dosbarthu yn trawsnewid y foltedd i 230 folt.

Mae ein rhwydwaith yn cynnwys dros 216,000 km o wifrau a cheblau, a 184,000 o drawsnewidwyr a ddefnyddir i leihau foltedd. Mae’r trawsnewidwyr yn amrywio mewn maint o unedau mawr sy’n gallu cyflenwi tref, i rai bychain ar bolion sy’n gwasanaethu bythynnod anghysbell.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyflenwad trydan diogel a dibynadwy, ac rydym yn gweithio'n barhaus i wella safon y gwasanaeth i'n cwsmeriaid.