HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni

Buddsoddi yn y Rhwydwaith

Buddsoddi yn y RhwydwaithYn y tair blynedd diweddaf rydym wedi buddsoddi dros £200m yn ein rhwydwaith ddosbarthu, gyda’r nod o ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid, ble bynnag y maen nhw’n byw.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy a cheisio sicrhau yr un pryd bod ein gwaith yn cael cyn lleied â phosib o effaith ar yr amgylchedd. Rydym yn gweithio’n galed i geisio cynnig gwerth am arian, a gosodir targedau heriol o ran perfformiad y rhwydwaith. Rydym yn rhoi llawer o sylw i’n rhwydwaith gan ddefnyddio’r cyfarpar a’r dulliau diweddaraf i sicrhau cyflenwad di-dor.

Gwella ac Arloesi

Mae rhaglen ddwys o wella’r rhwydwaith a chynnal a chadw yn sicrhau bod y rhwydwaith mewn cyflwr gwych. Mae hyn yn ein galluogi i ddarganfod problemau posib cyn i nam ddigwydd.

Mae technegau arloesol fel gweithio ar wifrau byw yn
ein helpu i fwrw ymlaen â thasgau dyddiol gyda chyn lleied â phosib o anhwylustod i’n cwsmeriaid.
 
Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio’r dechnoleg a’r dulliau gweithio diweddaraf. Byddwn yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd i wella’n safonau eto ac mae’r swm a fuddsoddwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf yn adlewyrchu ein nod o osod safon fyd-eang wrth ddarparu ynni i’n cwsmeriaid ar hyd a lled ein rhanbarth.

Targed 60

Pan fo problemau’n codi, mae Targed 60, ein menter unigryw yn sicrhau bod mwyafrif ein cwsmeriaid yn cael eu cyflenwad yn ôl o fewn 60 munud yn dilyn toriad.

Mewn ardaloedd mwy anghysbell, rydym wedi buddsoddi mewn defnydd o gyfarpar rheolaeth o bell er mwyn gwella ein hamserau ymateb. Wrth galon ein rhwydwaith yn ein canolfannau rheoli yng Nghaerdydd, gallwn gael gwybodaeth i’r eiliad ynglŷn â chyflwr ein rhwydwaith.

Mae buddsoddiad o £4m yn y cyfarpar TG diweddaraf yn galluogi ein peirianwyr rheoli i fonitro ac anfon gwybodaeth gywir i’n timau yn y maes, sy’n gweithio 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.