HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni

Prosiect Rhwydweithiau Carbon Isel De Cymru

Beth yw'r Prosiect?
 
Rydym yn cynnal Prosiect yn Ne Cymru i ddatblygu dealltwriaeth o sut y gall rhwydweithiau trydan foltedd isel (FI) ymdopi orau ym myd carbon isel y dyfodol. Bydd hyn yn ein helpu ni a gweithredwyr rhwydwaith trydan eraill y DU wrth i ni ddatblygu gridiau deallus y dyfodol.
 
Mae hyn yn adeiladau ar waith Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog defnyddio technolegau gwyrdd newydd megis celloedd solar ffotofoltaidd (PV), defnyddio pympiau gwres a gwella ynysu mewn cartrefi a busnesau.
 
Cymeradwywyd y prosiect gan y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, ac fe'i hariennir gan filiau trydan cwsmeriaid.
 
Dyluniwyd y rhwydwaith trydan ar gyfer gorsafoedd pŵer carbon uchel mawr canolog. I gyrraedd targedau carbon, mae'r DU angen mwy o gynhyrchu carbon isel megis o ffynonellau gwynt neu solar. Mae'r DU yn amcanu at symud oddi wrth ddefnydd o danwydd ffosil, ac mae diddordeb cynyddol mewn dulliau eraill carbon isel megis celloedd solar ar doeau adeiladau, cerbydau trydan a phympiau gwres. Ar yr un pryd cymerir camau arwyddocaol i wneud cartrefi'n fwy ynni effeithlon trwy well inswleiddio.
 
 

Felly, mae'r rhwydweithiau trydan yn wynebu galw cynyddol mawr ar y naill law, a pheth gostyngiad o ganlyniad i well ynysu ar y llaw arall. Mae hyn oll yn dod â straen newydd i'r rhwydweithiau trydan o'i gymharu â ble'r ydym ar hyn o bryd.
 
Mae angen i ni gasglu mwy o ddata ynglŷn â sut mae hyn yn effeithio ar y rhwydwaith FI sy'n cyflenwi cartrefi a busnesau, fel y gallwn gynllunio ffyrdd o weithredu'r newidiadau hyn am y gost isaf i'n cwsmeriaid a lleihau'r angen i dyllu ein strydoedd.    Mae hyn yn golygu gosod offer monitro mewn mannau ar hyd ein rhwydwaith i fonitro'r effaith ar ansawdd y pŵer neu'r foltedd. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i greu templedi model i'w defnyddio gan WPD, y Grid Cenedlaethol a chwmnïau rhwydwaith trydan eraill ar gyfer cynllunio yn y dyfodol i asesu effeithiau technoleg werdd ar eu rhwydweithiau.
 

Pa ardal mae'r prosiect yn ei gynnwys?
 
Bydd y prosiect yn cynnwys tua 10% o boblogaeth De Cymru ar draws yr ardal a ddangosir isod.



 
 
Ein Partneriaid Prosiect
 
 

Rydym yn gweithio gydag npower i gynnwys pobl sydd ag offer microgynhyrchu wedi ei osod ar eu heiddo.

 

Bydd Prifysgol Caerfaddon yn dadansoddi'r is-orsaf a'r data a gesglir am y foltedd.


Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth ddatblygu'r Prosiect.


Beth yw buddion y Prosiect i mi?
 
Rydym eisiau gwirio bod foltedd y cyflenwad trydan yn Ne Cymru yn bodloni'r safonau ansawdd a'r mesuriadau a nodir gan y llywodraeth, a phenderfynu beth sydd angen i ni ei wneud i barhau â hyn yn y dyfodol wrth i gynnyrch newydd megis cerbydau trydan, pympiau gwres a chelloedd trydan gael eu cysylltu.    
 
Y buddion i chi yw - 
  •  rydym yn weithgar yn gwirio bod foltedd eich cyflenwad yn safonol ar hyn o bryd;
  •  ein bod yn deall beth sydd angen i ni ei wneud i'w gadw'n gywir yn y dyfodol.
  • ein bod yn lleihau'r gost i gwsmeriaid ac ar yr aflonyddu ar strydoedd sy'n rhan o fodloni'r galw newydd a osodir arnom wrth i gymdeithas symud tuag at yr hyn a elwir yn ddyfodol carbon isel. 
 
Sut fydd hyn yn effeithio arnaf i?
 
Os ydych yn byw yn y rhannau o Dde Cymru a ddangosir ar y map uchod, gall y byddwch yn cael eich effeithio arnoch mewn sawl ffordd.
  • Gall y byddwn yn gosod offer monitro yn eich isorsaf drydan agosaf. Byddwn yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu ein bod am dorri ar eich cyflenwad trydan am tua 5 awr.
  • Gall y bydd angen i ni ymweld â'ch eiddo i brofi foltedd y trydan.   Byddwn yn ysgrifennu atoch i drefnu apwyntiad.
  • Os ydych yn byw ar derfyn ein llinell drydan, gall y byddwn yn gofyn i chi a gawn osod offer monitro foltedd yn eich eiddo. Bydd hyn yn golygu toriad byr i'ch cyflenwad trydan. Byddwn yn ysgrifennu atoch i drefnu apwyntiad.
  • Os oes offer meicrogynhyrchu megis paneli solar wedi cael eu gosod ar eich eiddo, rydym yn gweithio gyda chyflenwyr trydan, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i osod offer monitro foltedd ar eich eiddo er mwyn mesur effeithiau'r offer microgynhyrchu ar ein rhwydwaith. Bydd eich cyflenwr ynni neu eich landlord yn cysylltu â chi ynglŷn â hyn.
Am fwy o fanylion cliciwch yma i weld ein Cynllun Cyfathrebu. Mae hwn wedi cael ei gymeradwyo gan Ofgem.


A fyddaf yn cael mesurydd deallus?
 
Na fyddwch. Nid ydym yn gosod mesuryddion deallus. Cysylltwch â'ch cyflenwyr ynni am wybodaeth am fesuryddion deallus.
 

Sut mae gwybod a yw’r sawl sy'n galw yn rhywun dilys?
 
Byddwn yn ysgrifennu atoch ymlaen llaw os ydym eisiau ymweld â'ch eiddo.

Gallwch gytuno ar gyfrinair gyda ni. Bydd ein peirianyddion yn dweud y cyfrinair hwn pan fyddant yn ymweld â chi.
 
Bydd ein peirianyddion bob amser yn dangos eu cerdyn adnabod i chi.
 
Ni fydd ein peirianyddion fyth yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi nac yn gofyn i chi am fanylion bancio nac unrhyw fanylion personol eraill.
 
Os oes gennych unrhyw amheuaeth p'un a yw'r person sy'n galw yn berson dilys neu beidio, ffoniwch ni i wirio hynny.
 
Ymweliadau i brofi eich cyflenwad - 01443 219171
 
Ymweliadau i osod offer - 0800 0234965 neu 02920 535633
 
Peidiwch â defnyddio unrhyw rifau gwahanol a roddir i chi gan y person sy'n galw - efallai na fyddwch yn siarad â WPD.
 

A ydych yn casglu gwybodaeth bersonol amdanaf?

Nac ydym. Casglu data am foltedd mae'r prosiect hwn. Bydd y monitor foltedd yn cael ei wifro fel na all gofnodi unrhyw ddata ynglŷn â'r ffordd yr ydych chi a'ch teulu neu eich busnes yn defnyddio'ch ynni nac yn rheoli hynny.
 
Bydd y foltedd fyddwn yn ei gasglu yn cael ei drosglwyddo i Brifysgol Caerfaddon i'w ddadansoddi. Ni fyddwn yn trosglwyddo data personol amdanoch i unrhyw sefydliad y tu allan i WPD. 
 
Am fwy o fanylion cliciwch yma i weld ein Strategaeth Preifatrwydd Data. Mae hwn wedi cael ei gymeradwyo gan Ofgem.

 
Ein Haddewid Preifatrwydd Cwsmeriaid:
 
Fel rhan o Brosiect Rhwydwaith Carbon Isel gall y byddwn yn defnyddio ac yn prosesu'r data personol canlynol amdanoch:
  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn sydd ar ein cofnodion;
  • gwybodaeth a rowch wrth gysylltu â ni i gadarnhau neu i aildrefnu dyddiad gosod yr offer.
Nid yw'r offer monitro foltedd yn casglu unrhyw ddata personol.

Byddwn yn defnyddio eich data yn y ffyrdd canlynol -
  • i gysylltu â chi i drefnu gosod neu i gynnal a chadw'r offer neu i ymateb i unrhyw ymholiadau fydd gennych.
  • i'ch hysbysu am unrhyw newidiadau i'r Prosiect RhCI.
  • i ofyn i chi am adborth ar y broses o osod yr offer.
Pan fyddwn yn rhannu'r data gyda phartner-sefydliadau, ni fydd yn cynnwys eich enw na'ch cyfeiriad. 
 
Byddwn yn sicrhau bod ein systemau casglu data yn ddiogel a bod y data a rennir gyda Phrifysgol Caerfaddon yn cael ei ddarparu drwy ddulliau diogel, ac y'i cedwir yn gyfrinachol.
 
Ni fyddwn yn rhoi unrhyw ddata personol i drydydd partïon ar gyfer unrhyw bwrpas gwerthu neu farchnata, nac yn ei ddefnyddio'n hunain er mwyn ceisio gwerthu rhywbeth i chi.


Sut i gysylltu â ni
 
Dolen i.
 

Ymholiadau Prosiect Rhwydwaith Carbon Isel
 
Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â'r prosiect gallwch ein he-bostio ar wpdlcnproject@westernpower.co.uk
 
Os oes gennych gwyn cliciwch yma os gwelwch y dda - dolen i dudalen cysylltu cwynion.