Mae baich y cyfrifoldeb o ofalu am yr amgylchedd yn pwyso’n drwm ar ysgwyddau diwydiant - yn arbennig y busnesau hynny sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n sylfaenol i’n bywydau bob dydd.
Mae darparu trydan ar gyfer cartrefi a busnesau, a diogelu'r amgylchedd yr un pryd, wedi bod yn rhan allweddol o’r ffordd yr ydym wedi cynllunio ein gwaith a’n harferion gwaith.
Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i leihau cymaint â phosib ar effaith ein gweithgareddau fel dosbarthwr trydan ar yr amgylchedd naturiol a hanesyddol. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid sy’n cynrychioli gwahanol gyrff â diddordeb amgylcheddol a threftadaeth.