HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni

Adeiladau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon

Energy-efficient BuildingsMae ein holl adeiladau newydd a’r rhai sy’n cael eu hadnewyddu’n sylweddol yn cael eu hadeiladu i’r safonau amgylcheddol uchaf. Ein nod yw i bob un gyrraedd y safon ofynnol ‘da iawn’ yn unol â Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM).

Rydym wedi adolygu pob swyddfa a safle depo i asesu lefelau defnydd ynni ac effeithlonrwydd. Rydym wedi ymrwymo o hyd i gynhyrchu trydan a gwres o ffynonellau adnewyddadwy fel ynni gwynt, solar a biomas ym mhob adeilad newydd.

Fel rhan o’r datblygiadau diweddar yn ein canolfan hyfforddi staff yn Taunton, adeiladwyd tros adeilad alln o ddeunyddiau â lefel uchel iawn o effeithlonrwydd thermol. Drwy ddylunio gofalus, rydym wedi gallu cadw a defnyddio’r adeilad aneffeithlon sydd yno’n barod o fewn yr un newydd. Yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ynni’n sylweddol, mae’r dechneg hefyd yn golygu na fu’n rhaid defnyddio cerbydau ac ynni i ddymchwel a chael gwared ar wastraff.

Mae dyluniad y ganolfan hyfforddi’n cynnwys celloedd ffotofoltäig ar ben y to sydd hyd at naw cilowat. Maent wedi cynhyrchu bron i 1,000 cilowat y mis yn y saith mis cyntaf.

Mae hyn yn cyfateb i 400kg o CO2 y mis neu gar nodweddiadol yn arbed 1,700 o filltiroedd y mis o ran pellter teithio.

Mae nifer o’n lleoliadau eraill, er enghraifft ein canolfan yng Nghaerdydd a phencadlys y cwmni ym Mryste hefyd wedi eu hasesu ar gyfer gosod celloedd ffotofoltäig ar ben y to er mwyn cynhyrchu ynni, tra bod ein his-orsafoedd 132kV a 33kV yn cael eu hasesu er mwyn gweld a oes unrhyw leoliadau fyddai’n addas ar gyfer tyrbinau gwynt.

Rydym yn ymchwilio i ffyrdd eraill i leihau ein hôl troed carbon yn ein hadeiladau, tra bod technoleg mesuryddion deallus, sy’n ein galluogi i reoli lefelau defnyddio ynni’n fwy effeithiol, yn cael ei gosod yn yr holl swyddfeydd a’r depos gwaith newydd.



 
Targed Amgylcheddol WPD (Presennol - 2010)
       
Byddwn yn sicrhau bod yr holl adeiladau newydd neu rai a adnewyddir yn sylweddol yn cyrraedd safon ofynnol ‘da iawn’ BREEAM
       
Byddwn yn gosod mesuryddion smart yn ein holl ddepos a swyddfeydd newydd a’r rhai sydd eisoes yn bodoli
   
 
 Targed Amgylcheddol WPD (2010 - 2015)
   
Byddwn yn lleihau’r defnydd o ynni mewn depos a swyddfeydd o 5%.