HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni

Ailgylchu ein Gwastraff

Recycling our Waste
Mae ein staff wedi eu hyfforddi’n dda, a ph’un ai a ydyn nhw’n gweithio mewn swyddfa, garej, is-orsaf neu allan yn gweithio ar linell uwchben neu gebl tanddaear, maent yn gwybod pa gamau amgylcheddol y mae angen iddynt eu cymryd i sicrhau nad yw’r ffordd y maent yn gweithio a’r deunyddiau yn eu gwaith yn gwneud niwed i’w hamgylchedd.

Rydym wedi lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi drwy annog staff i ailgylchu pethau fel papur, plastigion PPE, alwminiwm, cetris toner a dillad corfforaethol.
 
Ein nod yw ailgylchu unrhyw wastraff a gynhyrchir. Yn yr un modd, ceisiwn roi hen gyfrifiaduron, dodrefn swyddfa a ffonau nad oes mo’u hangen mwyach i gyrff ac elusennau anghenus.
 
Yn y tair blynedd diwethaf rydym wedi ailgylchu dros 47 tunnell o bapur a chardbord a dros 32 tunnell o goed. Mae cynllun arian-yn-ôl am gardbord ac ailgylchu cetris toner yn golygu bod £1,000 ychwanegol bob blwyddyn yn cael ei roi i elusennau ac ysgolion yn yr ardal a wasanaethwn.



 




 
Targed Amgylcheddol WPD (Presennol - 2010)
       
Byddwn yn cynyddu’r defnydd o bapur o ffynonellau a ailgylchwyd i 90%
       
 
 Targed Amgylcheddol WPD (2010 - 2015)
   
Byddwn yn cynyddu’r defnydd o bapur o ffynonellau a ailgylchwyd i 95%
   
Byddwn yn lleihau lefel gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi o 5% .