Mae faniau sy’n mynd ar drydan yn cael eu hychwanegu at ein fflyd cludiant, ac ar hyn o bryd rydym yn rhan o gynllun DU-eang i dreialu ceir trydan.
Mae ein gyrwyr yn cael eu hyfforddi nid yn unig i yrru cerbydau’n effeithiol, ond hefyd i arbed tanwydd. Mae defnydd ac allyriadau tanwydd o’n fflyd yn cael eu monitro’n gyson ac rydym wedi buddsoddi’n helaeth i leihau faint o danwydd sy’n cael ei defnyddio’n gyffredinol ac allyriadau (gan gynnwys CO2) drwy ddefnyddio technolegau llosgi tanwydd modern, effeithlon a glân.
Rydym yn ymchwilio i nifer o ddatblygiadau arloesol i wella effeithlonrwydd tanwydd a lleihau allyriadau i’r awyr, er enghraifft:
- Systemau Eco Start sy’n gallu diffodd injan cerbyd yn awtomatig pan fo’n llonydd neu allan o gêr, a’i hail-gychwyn pan fo mewn gêr. Mae’r rhain yn lleihau allyriadau o 10% ac yn arbed canran debyg o ran tanwydd.
- System cyfyngu cyflymder.
Mae ailgylchu a lleihau lefel gwastraff olew drwy ddefnyddio olewau synthetig ag iddynt oes hirach hefyd yn ystyriaeth allweddol. Os yw’n ymarferol, rydym hefyd yn annog ein staff i leihau eu siwrneiau ar y ffordd neu yn yr awyr.