Rydym yn parhau i chwarae rôl weithgar yn ein cymunedau a chefnogwyd tua 200 o wahanol gyrff elusennol ac eraill llynedd yn unig.
Rhan allweddol o’n cymorth i gymunedau yw’r elfen amgylcheddol. Nod ein cynllun newydd, awyddus i fod yn wyrdd, yw helpu grwpiau cymunedol, ysgolion a’n staff ein hunain i wneud pob math o waith amgylcheddol - o brosiectau ailgylchu ac effeithlonrwydd ynni i greu a diogelu cynlluniau bywyd gwyllt ac ardaloedd plannu.
Rhan o’r fenter hon yw Cynllun Coed WPD sy’n hybu ac yn cefnogi’r gwaith o blannu coed cynhenid collddail, llwyni a pherthi mewn partneriaeth ag arbenigwyr cadwraeth megis Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydainac Ymddiriedolaeth Silvanus.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, cafodd dros 5,000 o goed a llwyni eu plannu ar draws De Cymru a De Orllewin Lloegr, a bydd nifer tebyg yn cael eu plannu eto'r flwyddyn nesaf.