Ar draws yr ardal yr ydym yn gyfrifol amdani rydym yn rheoli ac yn cynnal 216,000km o rwydwaith dosbarthu trydan sy’n gwasanaethu 7.6 miliwn o gwsmeriaid. Mae’r rhanbarth yn enwog am ei gwlad arbennig, morlin dramatig a’i thirwedd garw, ac mae’r gofynion hyn yn galw am y lefelau uchaf posib o ofal ac ystyriaeth amgylcheddol.
Tra bod ein gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar ddarparu trydan hanfodol i gartrefi a busnesau, bedair awr ar hugain y dydd, mae hefyd yn ddyletswydd arnom i asesu effaith ein gwaith ar yr amgylchedd, ac ymateb yn briodol.
Mae gan y cwmni hanes rhagorol o ran perfformiad a gwasanaethau cwsmeriaid, a rhaid ategu hyn gan y safonau amgylcheddol uchaf posib.
Felly o ddewis y math cywir o fylbiau golau a deunyddiau pecynnu i ddeall sut y mae’r deunyddiau a ddefnyddiwn yn effeithio ar yr amgylchedd, rydym yn dilyn egwyddorion, trefn ac amcanion amgylcheddol sy’n ein galluogi i wneud ein gwaith hanfodol yn effeithiol a sensitif.