HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni

Prif fentrau

Key InitiativesRydym wedi ymrwymo i ailgylchu ac ail-ddefnyddio gwastraff o waith stryd, lle y bo’n briodol, yn hytrach na defnyddio agregau pur. Rydym hefyd wedi gosod targedau ar gyfer cynyddu’r defnydd o ddeunyddiau ailgylchu a lleihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Rydym yn treialu technoleg mesuryddion deallus i fesur ac yna i reoli’n fwy effeithiol yr ynni sy’n cael ei golli wrth iddo gael ei drawsyrru ar hyd ein rhwydwaith – datblygiad arloesol fydd yn ein helpu i gynnig newidiadau i’r drefn reoleiddio bresennol o safbwynt colli ynni.

Rydym wedi cymharu effaith carbon ac ynni oes gyfan llinell drydan uwchben 11,000 folt a chebl tanddaear tebyg – gan edrych ar bopeth o echdynnu deunyddiau crai fel copr, alwminiwm, dur a choed i gludo mewn llongau a chludiant, adeiladu, archwiliad oes gyfan, cadw a chynnal a cholledion mewn systemau.

Rydym yn cynyddu lefelau byndiau trawsnewidwyr rhag gollyngiadau olew posib mewn prif drawsnewidwyr, lleihau gollyngiadau olew o Systemau Ceblau Llawn Hylif (FFCS) drwy wella’r system o ganfod gollyngiadau, a lleihau gollyngiadau SF6 o’n cyfarpar.

Rydym yn sicrhau bod ein staff wedi cael eu hyfforddi
 
i adnabod a chydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol, ac rydym wedi ymrwymo i gynnal hanes llwyddiannus y cwmni o beidio â chael yr un erlyniad mewn perthynas â gollyngiad olew.

Rydym yn gweithio gyda’r Llywodraeth i hwyluso’r gwaith o gyflwyno a dosbarthu trydan er mwyn gwneud y broses o gysylltu â’n rhwydwaith yn haws i gwsmeriaid, gan sefydlu taliadau system mewn modd sy’n ein galluogi i reoli’r dasg o ehangu’n rhwydwaith ddosbarthu mewn ffordd sy’n amgylcheddol gyfrifol.

Rydym wedi arwyddo Cytundeb Diwydiant Cyfleustodau WRAP a gefnogir gan y Llywodraeth, rhaglen gweithredu'r cynllun gwastraff ac adnoddau i hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol. Rydym hefyd wedi arwyddo memorandwm dealltwriaeth rhwng Cymdeithas Rhwydweithiau Trydan ac Asiantaeth yr Amgylchedd i reoli’r holl ffactorau amgylcheddol ar draws sector rhwydweithiau trydan y DU.
 

 
Targed Amgylcheddol WPD (Presennol - 2010)
       
Byddwn yn cynyddu’r ganran o adennill buddsoddiad o 10%.
       
Byddwn yn lleihau gollyngiadau o geblau llawn hylif (FFC) o 5%.
   
Byddwn yn cynyddu byndiau trawsnewidwyr i reoli gollyngiadau olew posib i 75% o brif drawsnewidwyr .
   
Byddwn yn sefydlu taliadau sy’n adlewyrchu costau ar gyfer cysylltu â’n rhwydwaith fel bod cwsmeriaid EHV a generaduron HV/LV yn derbyn defnydd cywir o brisiau’r system .


 
 Targed Amgylcheddol WPD (2010 - 2015)
       
Byddwn yn cynyddu’r ganran o adennill buddsoddiad o 5%.
       
Byddwn yn lleihau lefelau kg o ollyngiadau SF6 o 25%
   
Byddwn yn lleihau faint o olew sydd mewn ceblau llawn olew nas defnyddir mwyach i leihau’r risg o ollyngiadau o 5% .
   
Byddwn yn lleihau gollyngiadau olew o geblau llawn olew o 5% .
   
Byddwn yn cwblhau byndiau trawsnewidwyr i reoli gollyngiadau olew posib yn 100% o’n prif drawsnewidwyr .