HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni

Cadw'n ddiogel

Keeping Safe

Dilynwch y camau syml hyn gan Pylonman i gadw’n ddiogel bob amser:

Ceisio nôl pêl o is-orsaf:

Peidiwch BYTH a cheisio nôl unrhyw beth o is-orsaf.  Mae trydan yn gallu bod yn dwyllodrus a gall eich lladd os ewch chi'n rhy agos.

Chwarae yn ymyl gwaith ffordd:

Peidiwch BYTH â chwarae yn ymyl gwaith ffordd na gwthio rhwystrau o'r ffordd.  Gallech gael eich anafu neu achosi peryg i eraill.

Dringo peilonau neu bolion:

Peidiwch BYTH â dringo peilonau neu bolion sy’n cludo gwifrau uwchben. Mae trydan yn gallu bod yn dwyllodrus a gall eich lladd. Gallech syrthio a brifo.

Cwch gyda mast sy’n cael ei gwthio o dan wifrau uwchben:

CADWCH YN GLIR O UNRHYW WIFRAU UWCHBEN. Rhybuddiwch unrhyw un sydd mewn perygl o gyffwrdd gwifrau uwchben.

Barcud sy’n hedfan wrth ymyl gwifrau uwchben:

OS YW EICH BARCUD AR FIN CYFFWRDD GWIFRAU UWCHBEN GOLLYNGWCH EICH GAFAEL YNDDO. Os yw’n mynd yn sownd, gadewch iddo fod, a ffoniwch y cwmni trydan. Os yw’r llinyn yn hongian ffoniwch yr heddlu. Peidiwch â’i gyffwrdd oherwydd mae trydan yn gallu teithio ar hyd y llinyn.

Polion pabell yn cael eu dal yn uchel o dan wifrau trydan:

Peidiwch BYTH â gosod eich pabell yn agos at wifrau uwchben. Edrychwch i fyny a byddwch yn ofalus wrth symud gwrthrychau hir.

Pysgota yn agos at wifrau uwchben:

Peidiwch BYTH â physgota yn agos at wifrau uwchben. Tynnwch eich gwialen bysgota’n ddarnau cyn ei symud o un lle i’r llall.

Taflu pethau at wifrau trydan:

Peidiwch BYTH â cheisio gwneud difrod i gyfarpar trydanol. Gallech gael eich anafu neu achosi perygl i eraill. Os byddwch yn creu toriad trydan byddwch yn rhoi bywydau pobl eraill mewn risg.

Chwarae mewn adeilad gwag:

CADWCH DRAW O ADEILADAU GWAG. Os nad yw’r trydan wedi ei ddatgysylltu, gallai eich lladd.

Chwarae â golau stryd sydd wedi ei fandaleiddio:

Peidiwch BYTH â chwarae â goleuadau stryd sydd wedi eu fandaleiddio. Gallai gwifrau noeth eich lladd.

Dringo coeden, chwifio ffon yn agos at wifrau trydan:

CADWCH DRAW O UNRHYW WIFRAU UWCHBEN

Fandaleiddio is-orsaf:

Peidiwch BYTH ag ymyrryd â chyfarpar trydanol, na gwneud difrod iddo. Gallech anafu eich hun a rhoi eraill mewn perygl os byddwch yn achosi toriad trydan. Ac mae’n anghyfreithlon!

Beth ddylech ei wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le:

I nôl rhywbeth o is-orsaf:

  • Peidiwch byth â mynd i mewn i is-orsaf i nôl unrhyw beth yr ydych chi wedi ei golli.
  • Ffoniwch y cwmni trydan lleol i’w gael yn ôl.
  • Defnyddiwch y rhif sydd ar yr is-orsaf – neu chwiliwch amdano o dan ‘T’ ar gyfer ‘Trydan’ yn y llyfr ffôn.
  • Rhowch wybod ble mae’r is-orsaf a beth ydych chi wedi ei golli. Byddan nhw’n ceisio’i gael yn ôl i chi.
  • Cofiwch – fyddwch chi ddim yn mynd i drwbl am ddweud wrth bobl fod problem wedi codi.
Os yw bywyd rhywun mewn perygl:

  • Os oes rhywun wedi cael ei anafu ffoniwch 999 a galwch am ambiwlans a’r heddlu.
Os yw rhywun wedi dod i gyswllt â gwifrau byw:

  •  Peidiwch â’u cyffwrdd
  • Cysylltwch â’r heddlu a’r cwmni trydan lleol er mwyn diffodd y trydan.
Peidiwch ag anwybyddu’r arwydd ‘Perygl Marwolaeth’
  • Maent yno i’ch rhybuddio bod trydan yn beryglus os ewch yn agos ato. Mae trydan yn ddiogel oni bai eich bod yn ymyrryd ag o. Os ydych chi’n torri i mewn i is-orsafoedd neu’n mynd yn rhy agos at gyfarpar trydan, bydd yn eich lladd!