Hygyrchedd
Gwelywio o gwmpas y wefan hon
I welywio o gwmpas y wefan hon, defnyddiwch y ddewislen ar hyd top y dudalen a’r blychau ar y dudalen Hafan i weld prif rannau’r safle. Yna bydd y ddewislen i lawr yr ochr chwith yn rhestru’r holl wybodaeth sydd ar gael yn y rhan arbennig honno.
Newid math a maint ffont ar y wefan
Gallwch wneud maint y testun yn fwy neu’n llai, a newid y math o ffont.
I newid maint y testun
Defnyddwyr Internet Explorer
- Dewiswch ‘View’ (ar y ddewislen ar dop eich porydd)
- Yna dewiswch ‘Text Size’
- Yna dewiswch y maint
Gallwch hefyd bwyso’r botwm CTRL a defnyddio’r olwyn ar y llygoden yr un pryd i newid maint y testun.
Defnyddwyr Mozilla Firefox
- Defnyddiwch olwyn y llygoden (neu pwyswch y botwm CTRL a defnyddiwch yr allwedd + i gynyddu’r ffont) i newid maint y testun.
Defnyddwyr Netscape
- Ewch i ‘View’
- Yna dewiswch ‘Increase font’ gynifer o weithiau ag sydd angen i gael y maint ffont a ddymunwch
I ddewis ffont gwahanol
Defnyddwyr Internet Explorer
- Agorwch eich ffenestr ‘Internet Options’ drwy fynd i ‘Tools’. O dan History, dewsiwch ‘Fonts’ a dewiswch yr arddull a fynnwch, yna cliciwch ‘OK’.
- Ewch i ‘Accessibility’ o fewn ‘Internet Options’ a chliciwch ar ‘Ignore font styles/font sizes specified on Web pages’.
- Yna cliciwch ‘OK. Dylech weld gwahaniaeth ym maint y ffont.
Defnyddwyr Netscape
- Dewiswch ‘Edit’, ‘Preferences’, ‘Appearance’, ‘Fonts’
- Dewiswch ‘Use my default fonts, overriding document-specified fonts’
I newid lliw'r testun a’r cefndir
Efallai y bydd lliwiau penodol yn ei gwneud yn gaws i chi weld y wefan.
Defnyddwyr Internet Explorer
- Agorwch eich ffenestr ‘Internet Options’ drwy fynd i ‘Tools’
- O dan History, dewiswch ‘Accessibility’ a chliciwch ar ‘Ignore colours specified on Web pages’
- Yna cliciwch ‘OK’
Defnyddwyr Netscape
- Ewch i ‘Edit’ ‘Preferences’, ‘Appearance’, ‘Colours’
- Dewiswch ‘Always use my colours, overriding document’, yna dewiswch eich lliwiau.
Cwsmeriaid â nam ar y clyw
Mae ein gwefan wedi ei chynllunio fel bod modd i Ddarllenwyr Sgrin ddarllen ein tudalennau. Os oes gennych ymholiadau ynglŷn â gwasanaeth cysylltwch â ni ar
Ffôn testun 0845 6012318
Typetalk 18001892219
Ffacs 01208 892292
ebost pyoung@westernpower.co.uk
Cwsmeriaid â nam ar y golwg
Os hoffech dderbyn unrhyw un o’n taflenni i gwsmeriaid mewn Braille neu ar CD sain ffoniwch ni ar 0800 05566833
Os oes gennych gŵyn
Neu os oes gennych adborth ar ein gwasanaeth ffoniwch ni ar –
Typetalk 18001 0800 05566833
Ffacs 0117 9332428
ebost ttalyor@westernpowercymru.co.uk
Rhowch wybod pa ddull fyddai orau gennych i ni eich ateb, er enghraifft drwy lythyr, ffacs, ebost neu neges destun i’ch ffôn symudol.
Os oes angen i ni ymweld â chi gartref
Os oes angen Cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain neu gyfieithydd arall yn ystod ymweliad â’ch cartref, rhowch wybod i ni ac fe drefnwn hynny am ddim.