Uned Hofrennydd

Mae ein Huned Hofrennydd ym Mryste’n rhan allweddol o’n gwaith ac mae’n cynnwys pedwar hofrennydd (dwy Bell 206 Jet Ranger a dwy Twin Squirrel) a gefnogir gan beilotiaid, arsylwyr a pheirianwyr cynnal a chadw dan ofal ein Prif Beilot.
Rydym yn patrolio hyd at 100,000km o linellau y flwyddyn ar rwydweithiau trydan uwchben – ein nod yw darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’r diwydiant trydan – ac mae gennym dros 43 o flynyddoedd o brofiad o batrolio llinellau, tynnu lluniau thermol a dod o hyd i nam ar rwydweithiau trydan yn gyflym.
Mae’r holl waith cynnal a chadw ar ein hofrenyddion yn cael ei wneud yn fewnol ac eithrio’r prif archwiliad llawn.
Mae gwaith yr Uned yn cael ei ehangu drwy’r amser, yn amrywio o waith cludo syml i wneud arolygon lefel-isel arbenigol i wahanol gyrff.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma