HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni

Mesuryddion Deallus

Mae technoleg mesuryddion deallus, diolch i WPD, yn helpu cwsmeriaid masnachol mawr o bob cwr o’r DU i arbed arian drwy reoli eu biliau ynni’n fwy effeithiol.

Mae Tîm Mesuryddion o Bell WPD yn gyfrifol am osod a chynnal technoleg mesuryddion deallus sy’n gallu cofnodi data defnyddio ynni mewn busnes bob hanner awr a’i drosglwyddo’n ôl yn gyflym.
 
A gan fod cwsmeriaid yn derbyn adborth yn brydlon - mae’r mesuryddion yn anfon data yn ôl yn ddyddiol sy’n diweddaru gwasanaethau’r we ac ebyst yn awtomatig - maent yn gallu rheoli’r lefelau a ddefnyddir yn fwy effeithiol ac arbed arian.
 
Mae’r system mor effeithiol, pe bai’r goleuadau’n cael eu gadael ymlaen mewn adeilad dros nos, yna byddai’r cwsmer yn cael ebost yn awtomatig pan fyddai’r defnydd o ynni’n codi’n uwch na lefelau penodol.
 
Mae rhai o gwsmeriaid stryd fawr WPD wedi arbed 15% o gyfanswm costau ynni, a hynny drwy annog rheolwyr i fod yn synhwyrol ynglŷn â phryd i ddefnyddio golau mewn siopau.


Mae’r rhestr cwsmeriaid Mesuryddion o Bell yn arbennig. Ymysg y busnesau mae W.H. Smith, Aldi, cadwyn tafarndai Greene King a garejys Total yn ogystal ag awdurdodau lleol, cyfleustodau dŵr ac adrannau’r llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae mesurydd WPD hyd yn oed ym Mhalas Holyrood yn yr Alban - cartref swyddogol y Frenhines yn yr Alban.
 
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma