|
Mae WPD wedi ymrwymo i ragoriaeth mewn gwasanaethau cwsmeriaid, ac i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn derbyn y lefel gywir a mwyaf priodol o wasanaeth bob amser.
Mae ein Cod Ymarfer ar wasanaethau ar gyfer yr henoed, pobl anabl, cwsmeriaid sy’n dioddef o salwch cronig, sy’n ddall neu’n fyddar yn unol â chytundeb Ofgem, y Rheoleiddiwr diwydiant, ac mae’n cwrdd â’r gofynion yn unol â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1999.
Er hynny, rydym yn cydnabod bod nifer o gwsmeriaid diamddiffyn sydd heb fod yn ffitio yn y categori hwn, ond sydd o bosib angen cymorth yn ystod adegau o doriad hir mewn cyflenwad trydan.
Mae ein menter bedair awr ar hugain gyda Gwasanaeth y WRVS ar gael i helpu. Mae'n cynnig cymorth i rai sydd wedi bod heb drydan am fwy na phedair awr a heb ddŵr poeth neu fwyd.
|