Gwasanaethu ein Cwsmeriaid
Mae barn y cyhoedd am y cwmni’n seiliedig ar ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn i gwsmeriaid. Dyna pam fod ein gweithwyr yn gwybod bod cael pethau’n iawn y tro cyntaf, bob tro, yn allweddol i lwyddiant ein busnes.
Yn wir, mae ein staff wedi gweithio’n galed i fabwysiadu’r athroniaeth hon. Felly, pan fo angen sicrwydd ar ein cwsmeriaid, gallant fod yn hyderus y byddwn yn ymateb yn gyflym ac yn effeithlon i’w llythyrau, ebyst a’u galwadau ffôn. Rydym wedi ymrwymo, lle bynnag y bo’n bosibl, i gysylltu’r un diwrnod ag y bydd ymholiad yn cael ei dderbyn.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda grwpiau sy’n cynrychioli buddiannau cwsmeriaid. Mae nifer o fentrau wedi deillio o hyn gyda’r nod o wella safonau gwasanaethau cwsmeriaid hyd yn oed yn fwy.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynnig gwybodaeth gliriach am ddyfynbrisiau i gwsmeriaid;
- Gwella negeseuon i gwsmeriaid yn ystod cyfnodau pan fydd nam ar y cyflenwad trydan;
- Cod Ymarfer ar gyfer derbyn gwybodaeth gywir a phrydlon yn ystod cyfnod hirfaith o golli cyflenwad trydan;
- Darparu rhif cyswllt 24 awr ar gyfer rheolwr sydd wedi’i awdurdodi i ddatrys problemau cwsmeriaid.
- Cyflwyno gwasanaethau newydd i gwsmeriaid diamddiffyn.