HafanYnglŷn â WPDBusnesau eraillCyllidIechyd a DiogelwchNewyddion a ChymunedGyrfaoeddCysylltu â ni

Sut i wneud Cwyn

Sut i wneud Cwyn

Os nad ydych yn hapus gyda'n gwasanaeth

Rydym wedi ymrwymo i roi gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i chi, y tro cyntaf, bob tro.

Fodd bynnag, weithiau mae pethau’n mynd o’i le. Rhowch wybod i ni os bydd hyn yn digwydd, fel y gallwn ddatrys unrhyw broblemau mor gyflym â phosibl.

Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddefnyddio’n proses gwyno.

Sut i gysylltu â ni

Ffôn – ffoniwch ni am ddim ar 0800 0556833
  
ebost - gallwch anfon ebost at ttaylor@westernpowercymru.co.uk
Rhowch eich cyfeiriad gan gynnwys eich cod post, yn ogystal â’ch rhif ffôn yn eich ebost.

Yn ysgrifenedig – gallwch ysgrifennu at Tony Taylor, Information Centre Manager, Avonbank, Feeder Road, Bristol BS2 0TB.

Rhowch eich cyfeiriad a’ch cod post yn ogystal â’ch rhif ffôn yn eich llythyr.

Yn bersonol  - gallwch alw heibio eich swyddfa WPD leol.


Cam 1 – Adolygiad gan eich Rheolwr Lleol

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cwyn ac yn trefnu i reolwr sy’n gyfrifol am y rhwydwaith drydan yn eich ardal gysylltu â chi yr un diwrnod, os ydych wedi rhoi rhif ffôn i ni.

Bydd y rheolwr yn gwneud ei orau i ddatrys y broblem pan fydd yn galw.
Os nad yw eich rhif ffôn gennym, byddwn yn ysgrifennu atoch neu’n anfon ebost o fewn tri diwrnod gwaith o dderbyn eich llythyr neu ebost.

Nodwch os gwelwch yn dda, os byddwch yn cysylltu â ni ar y ffôn neu drwy ebost ar ôl 4pm yn ystod yr wythnos neu ar benwythnos neu ŵyl y banc, bydd y rheolwr yn cysylltu â chi ar y diwrnod gwaith nesaf.

Cam 2 – Atgyfeirio at Uwch-reolwr

Os nad ydych yn hapus gyda’r modd y mae’r rheolwr lleol wedi delio â’ch cwyn, gallwch ofyn am gael siarad gydag uwch-reolwr sy’n gyfrifol am eich rhanbarth. Bydd uwch-reolwr yn cysylltu â chi o fewn tri diwrnod gwaith – drwy ffonio neu drwy ymweld yn bersonol. Bydd yn ymchwilio i’ch cwyn ac yn gweithio gyda chi i ddatrys y broblem.

Cam 3 – Adolygiad Terfynol gan y Rheolwr Cwynion

Os nad ydych yn gwbl fodlon gyda’r hyn a wnaed ar ôl trafod eich cwyn gydag uwch-reolwr sy’n gyfrifol am eich rhanbarth, gallwch ofyn i’ch cwyn gael ei hadolygu’n ffurfiol gan Reolwr Materion Rheoleiddio a Llywodraeth WPD, Alison Sleightholm.  Bydd yn eich ffonio ac yn anfon llythyr atoch yn egluro ein safiad terfynol o fewn wythnos.

Bydd hi’n cysylltu â chi ac yn anfon llythyr yn gosod ein safbwynt terfynol o fewn un wythnos.

Rydym yn anelu i ddatrys eich cwyn o fewn wyth wythnos gydag ymddiheuriad ac eglurhad o’r hyn aeth o'i le.  Pan fo'n addas fe allwn gymryd camau i adfer y sefyllfa ac mae'n bosib y byddwn yn talu rhywfaint o iawndal.

Cam 4 – Ombwdsman Ynni

Byddwn yn gwneud popeth a allwn i ddatrys eich problem drwy weithio gyda chi. Fodd bynnag, os ydych yn dal yn anhapus gyda’n gwasanaeth a’ch bod eisoes wedi dilyn Camau un i dri, neu os nad ydym wedi datrys eich cwyn o fewn wyth wythnos, mae hawl gennych i gysylltu â’r ombwdsman ynni.  Gwasanaeth datrys anghydfod yw hwn, sydd am ddim ac yn annibynnol. Bydd yr ombwdsman yn gofyn i chi am gofnod llawn o’r cyswllt fu rhyngom ni a bydd hefyd yn cysylltu â ni i geisio deall yr achos o’n safbwynt ni.  Bydd yr Ombwdsman yn gwneud penderfyniad terfynol ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.

Energy Supply Ombudsman
PO Box 966
Warrington
WA4 9DF

Ffôn: 0845 055 0760
Ffacs: 0845 055 0765
ebost: enquiries@os-energy.org

Ffynonellau eraill o gyngor a gwybodaeth -

Mae'n bosib y bydd y sefydliadau hyn yn gallu cynnig gwybodaeth a chyngor annibynnol:

Cyswllt Defnyddwyr Cymru - www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk neu ffoniwch 08454 040506

Cyngor ar Bopeth - www.citizensadvice.org.uk i ddod o hyd i'ch cangen leol

Age Concern Cymru - www.accymru.org.uk i ddod o hyd i'ch cangen leol

Help the Aged - www.helptheaged.org.uk i ddod o hyd i'ch cangen leol