Sut i wneud Cwyn

OS NAD YDYCH YN HAPUS GYDA’N GWASANAETH
Rydym wedi ymrwymo i roi gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i chi, y tro cyntaf, bob tro.
Fodd bynnag, weithiau mae pethau’n mynd o’i le. Rhowch wybod i ni os bydd hyn yn digwydd, fel y gallwn ddatrys unrhyw broblemau mor gyflym â phosibl.
Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddefnyddio’n proses gwyno.
Sut i gysylltu â ni:
Ffôn – ffoniwch ni am ddim ar 0800 0556833
Rhowch eich cyfeiriad gan gynnwys eich cod post, yn ogystal â’ch rhif ffôn yn eich ebost.
|
Yn ysgrifenedig – gallwch ysgrifennu at Tony Taylor, Information Centre Manager, Avonbank, Feeder Road, Bristol BS2 0TB.
Rhowch eich cyfeiriad a’ch cod post yn ogystal â’ch rhif ffôn yn eich llythyr.
Yn bersonol - gallwch alw heibio eich swyddfa WPD leol.
Cam 1 – Adolygiad gan eich Rheolwr Lleol
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cwyn ac yn trefnu i reolwr sy’n gyfrifol am y rhwydwaith drydan yn eich ardal gysylltu â chi yr un diwrnod, os ydych wedi rhoi rhif ffôn i ni.
Bydd y rheolwr yn gwneud ei orau i ddatrys y broblem pan fydd yn galw.
Os nad yw eich rhif ffôn gennym, byddwn yn ysgrifennu atoch neu’n anfon ebost o fewn tri diwrnod gwaith o dderbyn eich llythyr neu ebost.
Nodwch os gwelwch yn dda, os byddwch yn cysylltu â ni ar y ffôn neu drwy ebost ar ôl 4pm yn ystod yr wythnos neu ar benwythnos neu ŵyl y banc, bydd y rheolwr yn cysylltu â chi ar y diwrnod gwaith nesaf.
Cam 2 – Atgyfeirio at Uwch-reolwr
Os nad ydych yn hapus gyda’r modd y mae’r rheolwr lleol wedi delio â’ch cwyn, gallwch ofyn am gael siarad gydag uwch-reolwr sy’n gyfrifol am eich rhanbarth. Bydd uwch-reolwr yn cysylltu â chi o fewn tri diwrnod gwaith – drwy ffonio neu drwy ymweld yn bersonol. Bydd yn ymchwilio i’ch cwyn ac yn gweithio gyda chi i ddatrys y broblem.
Cam 3 – Adolygiad Terfynol gan y Rheolwr Cwynion
Os nad ydych yn gwbl fodlon gyda’r hyn a wnaed ar ôl trafod eich cwyn gydag uwch-reolwr sy’n gyfrifol am eich rhanbarth, gallwch ofyn i’ch cwyn gael ei hadolygu’n ffurfiol gan Reolwr Materion Rheoleiddio a Llywodraeth WPD, Alison Sleightholm asleightholm@westernpower.co.uk
Bydd hi’n cysylltu â chi ac yn anfon llythyr yn gosod ein safbwynt terfynol o fewn un wythnos.
Rydym yn anelu i ddatrys eich cwyn o fewn wyth wythnos gydag ymddiheuriad ac eglurhad o’r hyn aeth o'i le. Pan fo'n addas fe allwn gymryd camau i adfer y sefyllfa ac mae'n bosib y byddwn yn talu rhywfaint o iawndal.
Cam 4 – Ombwdsman Ynni
Byddwn yn gwneud popeth a allwn i ddatrys eich problem drwy weithio gyda chi. Fodd bynnag, os ydych yn dal yn anhapus gyda’n gwasanaeth a’ch bod eisoes wedi dilyn Camau un i dri, neu os nad ydym wedi datrys eich cwyn o fewn wyth wythnos, mae hawl gennych i gysylltu â’r ombwdsman ynni. Gwasanaeth datrys anghydfod yw hwn, sydd am ddim ac yn annibynnol. Bydd yr ombwdsman yn gofyn i chi am gofnod llawn o’r cyswllt fu rhyngom ni a bydd hefyd yn cysylltu â ni i geisio deall yr achos o’n safbwynt ni. Bydd yr Ombwdsman yn gwneud penderfyniad terfynol ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.
Energy Supply Ombudsman
PO Box 966
Warrington
WA4 9DF
Ffynonellau eraill o gyngor a gwybodaeth -
Mae'n bosib y bydd y sefydliadau hyn yn gallu cynnig gwybodaeth a chyngor annibynnol:
|